TRYCHINEB MOR YR IWERDDON (1918)
Description
Date: 19 October 1918
Transcript:
TRYCHINEB MOR YR IWERDDON.
Mewn colofnau eraill ceir manylion am y trychinebau alaethus i'r llong Japanaidd 'Hirano Maru,' a'r agerlong 'Leinster,' yn Mor y Werydd. Y mae'r bad tanforawl Ellmynig a suddodd y llestri hyn, gan ddifa wyth gant o fywydau hollol ddiniwed— gwyr, gwragedd, a phlant—wedi gwneyd Nodyn Heddwch Germani yn sarhad i wareiddiad. Yn ei ymgais am heddwch myn y Canghellor Max i ni gredu ei fod yn siarad dros Germani newydd—Almaen wedi ymddiosg o'i bratiau budron, a gwlad sydd yn awyddus i gymmeryd ei lle yn mysg cenhedloedd heddychol a chyfeillgar y byd. Ac etto, yn ysgil y cais hwn am heddwch wele'r torpedo Ellmynig yn hyrddio cannoedd o ddniweitiaid, nad oedd a fynont ddim a'r rhyfel, i farwolaeth anamserol. Dyma brawf arall, pe buasai ei angen, i ddangos mai yr un yw Germani etto, er fod ei phroffes dipyn yn wahanol. Mynasai y Cangnellor newydd i ni gredu fod y teimlad gwerinol o'r diwedd yn cael y llaw uchaf yn Germani, ond mae suddiad y Leinster yn profi mai'r arglwyddi rhyfel sydd mewn awdurdod yno hyd yn hyn. Mae'r Maeslywydd Foch a byddinoedd y Cydbleidiau bron wedi llethu nerth milwrol y gelyn, a dyna yn unig sydd yn cyfrif am awydd yr Ellmyn am heddwch. Dylai suddiad y 'Leinster,' fel y 'Lusitania,' wroli y Cydbleidiau, a grymuso eu penderfyniad i beidio caniatau heddwch ond ar eu telerau hwy eu hunain.
Source:
‘Trychineb Mor yr Iwerddon.’ Baner ac Amserau Cymru. 19 Oct. 1918. 2.
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment