Skip to main content

Pontrobert School Camp, Urdd National Eisteddfod, 1963, Brynaman

Description

Two photographs owned by Roy Griffiths of the Pontrobert School group who competed in a folk dance group competition at the Urdd National Eisteddfod in 1963 (Brynaman). Roy also gave an account of his experience for a local history book called 'Pontrobert - A History in Conservation - A History in Pictures and Memories'. [in Welsh]

“Roedden ni bob amser yn brysur iawn adeg eisteddfodau’r Urdd ac yn 1963 llwyddodd Ysgol Pontrobert i ennill y gystadleuaeth grŵp dawnsio gwerin yn yr eisteddfod sir gan olygu y byddem yn cael cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mrynaman. Wel dyna i chi gynnwrf a phob un o’r parti’n edrych ymlaen at gael mynd i dde Cymru (neu’r ‘Sowth’ fel y byddai’n rhieni yn cyfeirio ato). Dwi’n meddwl mai i Rydaman aethon ni ar gyfer trefnu llety a dwi’n cofio rhyfeddu wrth weld y baneri lliwgar a’r negeseuon i’n croesawu cyn i ni fynd draw i ryw ystafell/neuadd i gael cwrdd â’r teuluoedd fyddai’n ein cartrefu am y noson. Teimlad digon od a nerfus oedd aros i weld pwy fyddai’n ein cymryd efo nhw i’w cartrefi. Ond doedd dim angen poeni, ac Arwyn Greenhill a finne’n cael croeso arbennig gan Mrs Thomas a’i theulu draw ym Mrynaman – a do, mi wnaethon ni lwyddo i ddeall ein gilydd yn siarad yn iawn a thafodiaith Sir Drefaldwyn yn siŵr o fod yn brofiad gwahanol iddyn nhw hefyd. Roedd pawb o’n criw ni wedi cael yr un croeso dwi’n meddwl.

Diwrnod cyffrous oedd diwrnod yr Eisteddfod ei hun a dwi’n cofio bod yn y rhagbrawf am gryn amser cyn cael y newyddion ein bod wedi cyrraedd y llwyfan! Wel dyna beth oedd sioc gan nad oedd cystadleuaeth wahanol i ysgolion llai bryd hynny a ninnau’n ysgol fach iawn efo dim ond ychydig dros dri deg o ddisgyblion . Dawnsio wedyn ar lwyfan mawr prifwyl yr Urdd i gyfeiliant record! Dwi’n deall nad aeth pethau cystal ar y llwyfan ac i ni ddawnsio’n well yn y rhagbrawf ond dyna fo, roedden ni uwchben ein digon wrth dderbyn y drydedd wobr. Fedrwch chi ddychmygu’r cynnwrf wrth i ni deithio adre ar y daith hir o Frynaman, bob un ohonom yn teimlo fel arwyr ac yn ysu am ddweud yr hanes wrth ein teuluoedd a’n ffrindiau. Dyddiau hapus a diniwed a diolch amdanyn nhw.”

Owner:
Roy Giffiths
Creator:
Unknown
License information:
Item uploaded:
5/5/2022
Views:
465
Favourites:
0

Contact Us

To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment