Bands; stories from the slate quarrying areas of North Wales.
Description
A picture and article from Papur Pawb (1895) of the orchestra, Seindorf Arian Llan Ffestiniog, that has won the most awards in North Wales during the last ten years.
[Article only in Welsh]
'Wele ddarlun o'r seindorf sydd wedi enill mwyaf o wobrwyon yn Ngogledd Cymru yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Yr hyn gynhyrfodd amryw o ddynion ieuainc cerddgar i sefydlu seindorf (yr hyn a wnaed yn 1883) ydoedd ymweliad seindorf enwog Llanrug a'r Llan, pan yn anterth eu gogoniant, i wasanaethu Cymdeithas yr Odyddion, o dan arweiniad Mr Tidsweil. Mae llwyddiant dilvnol y seindorf i’w briodoli yn benaf i’w sêl gerddorol eu hunain, ac hefyd i vmdrech neilltuol eu dau arweinydd lleol, sef yn y blynyddoedd cyntaf, Mr Richard Dwyryd Roberts, Clogwyn Brith (yn awr yn aelod o Seindorf Heddgeidwadol Abertawe) Ar ei ymadawiad ef dewiswyd Mr John M. Jones yn arweinydd, yr hwn sydd yn aelod gweithgar er y cychwyniad, ac sydd hefyd wedi profi ei hunan yn arweinydd rhagorol fel y tystiodd Mr Gladney lawer tro, tra mae y ffaith ei fod wedi paratoi detholiadau o Wagner Gounod, Schubert, Mozart, Balfe, Handel, Herold, a llu ereill, i'r fath berffeithrwydd cyn ymweliad Mr Gladney yn brawf diymwad o'i alluoedd fel arweinydd. Ar wahan y mae y seindorf wedi derbyn addysg werthfawr ar wahanol adegau gan Meistri J. R Tidswell, G.B Birkenshaw, A. Owen , J Ryder, Fred Durham, J. Billam, A.Holden ac vn awr, ers rhai blynyddoedd, gan vr enwog John Gladney, Manchester.
Hefyd, talasant ymweliad amryw weithiau ar rhan fwyaf o drefi Gogledd Cymru vn ogystal a Manchester. Uchelgais y seindorf yw chwareu mewn cystadleuaeth heb gynnorthwy aelodau taledig o Loegr, yr hyn sydd wedi bod yn felldith i seindyrf Cymru yn y gorphenol. Bu’r seindorf hon yn chwareu o dan feirniadaeth prif gerddorion Cymru a Lloegr, a chawsant nodiadau hynod o ffafriol ganddynt oll . Er iddynt golli amryw weithiau, teimlant yn hollol foddlawn i'r dyfarniad ond ar ddau amgylchiad, ac ni bydd dim yn fwy boddhaus ganddynt yn y dyfodol na gweled amryw o seindyrf Gogledd Cymru yn myned a'r llawryf oddiarnynt fel chwareuwyr yn cael eu gwneyd i fvny o aelodau Cymreig. Wele ychydig ddyfyniadau o'r beirniadaethau :-
"Mewn rhai o'r symudiadau, meddyliwn fy mod yn gwrando ar seindorf o broffeswyr”. Jos. Bennet."Mynegiant, tonyddiaeth, a brawddegiant ardderchog. Seindorf yn dangos dysgyblaeth fedrus. —J. A. Ainsworth, Chorley."Seindurf yn chwareu gyda llawnder, chwaeth, a medusrwydd neilltuol."D Kmlyn Evans."Perfformiad mawreddog, anhawdd i'w orchfygu” J. Parry."Bravo, mawreddog; chwareuad uwchraddol.” Mons. J, Riviere, Llandudno."Ym mhell ar y blaen; chwareuad ardderchog." J. North, Huddersfield."Seindorf ardderchog, yn cael dysgyblaeth dda." D. Jenkins, Mus. Bac."Chwareuad o 'Teilwng yw'r Oen' yn mhell o flaen y seindyrf ereill, mewn tonyddiaeth, llawnder, a glanweithdra,"—C. F. Lloyd, Mus. Bac."Chwareruad y seindorf fuddugol yn meddu teilyngdod neillduol."—George Miller, Mus. Bac.'
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment