'Sadwrn Setlo' Settlement Saturday, Song by E.Jones, Llanfairfechan about the Saturday in which the quarrymen were payed monthly.
Description
A song written in Welsh about pay day in the slate quarries; 'Sadwrn Setlo'
SADWRN SETLO Treuliais felus ddifyr origLawer tro i ganu orig,Ac yn awr yr wyf am geisioCanu cân i Sadwrn Setlo. Diwrnod hynod iawn yn ddiauYdyw hwn ym Mhlith y dyddiauDiwrnod yw nad aiff yn angho’-Diwrnod mawr yw Sadwrn Setlo. Gweithia’r gweithwyr yn egniol,Gydag ysbryd penderfynol,Ac edrycha’n mlaen pan fyddo’nDerbyn tal ar ddiwrnod Setlo. Ar ol llafur mawr a lludded,Difyr odiaeth ydyw gweled,Llu o weithwyr yn cydrodioAm eu cyflog Sadwrn setlo. Gwelir llu yn llon a llawen,Ac yn siriol fel yr heulwen;Mynwes llawer fydd yn chwyddoO lawenydd Sadwrn Setlo. Bydd y wraig a’r plant yn drefnus,A’r holl dy yn lan a destlus,Er mwyn rhoddi perffaith groesoI’r penteulu Sadwrn Setlo. Daw y gwr yn llawen adref,A bydd pawb mewn hwyl a thangnef;Fe geir gweled nad a’n angho’O ddanteithion Sadwrn Setlo. Prysur fydd yr holl fasnachwyrA phob lliw a llun o’r shopwyr;Fe fydd pawb yn cyd-ymunoI groesawu’r Sadwrn Setlo. Llestri rhad a phob rhyw gelfiFydd yn cael eu dwyn a’i gwerthu,A daw’r Iddew, megys cadno,Gyda’i nwyddau Sadwrn Setlo. Llanciau’r fro yn llu-luuosogA’r holl ferched ieuainc serchogFyddant brysur yn ymbincioI fwynhau nos Sadwrn Setlo. Ond rhyw ddiwrnod du, er hynny,Ydyw hwn mewn llawer teulu;Medd’dod hagr sy’n dinystrioMwyniant llawer Sadwrn Setlo. Ac mae eraill fu yn ddiog,Yn ddigalon ac afrywiog;Ca’s y rhai nid y’nt am weithioNi chant gyflog Sadwrn Setlo.Eraill sydd yn mhlith y gweithwyrAnt i’r dafarn yn ddisynwyr,I ofera ac i warioEu henillion Sadwrn Setlo. Trist yn ddiau ydyw gweledDynion, wedi gweithio’n galed,Yn diota ac yn sgwaroEu cyflogau Sadwrn Setlo. O! na wawriai’r diwrnod hwnwPan ddarfyddo yfed cwrw;Felly gwelid llu,’n lle cwyno,Mewn hapusrwydd Sadwrn Setlo. Wrth i mi yn awr derfynu,Dyma’r wers rwyf yn ei dysgu-Sef fod i ni iawn-ddefnyddio‘Rhyn a gawn ar Sadwrn Setlo. E. Jones, Llanfairfechan. North Wales Weekly News19/05/1905
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment