Y MORWR A ARBEDWYD
Description
Date: 9 February 1915
Transcript:
Y MORWYR A ARBEDWYD.—Yr oedd Capten R. O. Morris, Ralph Street, Borthygest, (yn swyddog), a Mr. John Hughes, Terrace Road, yn un o ddwylaw yr agerlong Linda Blanche o Fangor, yr hon a suddwyd gan y cwch-tanforawl Germanaidd U21, yr wythnos o'r blaen. Cyrhaeddasant adref ddechreu yr wythnos o'r blaen. Yr oeddynt wedi cychwyn o Fanceinion brydnawn Gwener, a phan ychydig bellder o Lerpwl gwelsant gwch dinystriol y gelyn. Daeth y swyddogion ar y Bwrdd a chawsant ddeng munyd o amser i glirio ohoni. Yr oedd y swyddogion Germanaidd yn bur anrhydeddus. Bu John Hughes ar fwrdd eu llong tanforawl a chafodd bob croesaw. Yr oeddynt i gyd yn ddynion pur ieuainc, ac yn siarad Saesneg da.
Source:
"Y morwr a arbedwyd." Yr Herald Cymraeg. 9 February 1919. 7.
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment