David Richards' voyage aboard the ship 'Farringford', 1904
Ganed David Richards ar 10 Mawrth 1876 yn ‘Tanrallt’, Gwynfe, Sir Gaerfyrddin, yn fab i Thomas Richards, saer coed a thyddynnwr, a’i wraig Rachel. Arferai Thomas gerdded ar nos Sul wedi’r oedfa dros y Mynydd Du er mwyn cyrraedd gwaith glo’r Primrose ym mhentref Rhos ger Pontardawe erbyn y bore Llun canlynol. Cerddai yn ei ol ar brynhawn Sadwrn i dreulio’r Sul gyda’i deulu ac i fynychu’r oedfaon yng Nghapel Maen. Mae llyfr cownt Thomas yn dangos yn glir nad oedd llawer o waith i saer yno.
Pan oedd David tua deuddeg mlwydd oed, symudodd y teulu i’r Alltwen a gwnaethant eu cartref ar Graig Road yng nghysgod Graig yr Alltwen. Roedd crefydd yn ganolog i’w bywydau a chymhellwyd David gan ddiaconiaid Eglwys Danygraig i ddechrau pregethu. Treuliodd flwyddyn yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, cyn dechrau ar gyfnod yng Ngholeg yr Annibynwyr yn Aberhonddu.
Pallodd ei iechyd oherwydd y darfodedigaeth yn 1903 a gorfu iddo ddychwelyd adref. I geisio adfeddiannu ei nerth cymerodd ddwy fordaith, y cyntaf i dde America yn 1904 a’r ail i Efrog Newydd yn 1905. Mae cofnodion yn dangos na chafodd fynediaid i UDA oherwydd ei afiechyd a gorfu iddo ddychwelyd i Gymru. Bu farw o’r salwch ar 8 Mehefin, 1906. Effeithiwyd ar sawl aelod o’r teulu gan yr afiechyd creulon a oedd yn gyffredin trwy Gymru ar y pryd: yn 1900, ‘roedd saith o siroedd Cymru ymhlith yr ardaloedd trwy’r DU lle ‘roedd y ddarfodedigaeth ar ei gwaethaf. Bu farw pump o’r wyth plentyn o’r afiechyd a’u claddu gyda’i gilydd ym Mynwent yr Alltwen.
Ysgrifennwyd y dyddiadur isod yn ystod mordaith David Richards o’r Barri i’r Ynysoedd Dedwydd a’r Ariannin yn 1904. Ymgais oedd y fordaith i wella’i iechyd, trwy deithio yn awyr iachusol cefnfor yr Iwerydd. Yn anffodus ni adferodd a bu far war 8 Mehefin 1906.
Nid yw’n hysbys sut y daeth David Richards i gysylltiad a chwmni Jenkins, Williams & Co. yng Nghaerdydd, ond ‘doedd mordeithiau o’r fath ddim yn hollol anghyffredin ar y pryd. Yn un o’i gyfrolau hunangofiannol, Welsh Broth, mae’r Cymro blaenllaw Thomas Jones yn son am fordaith a gymerodd ef yn 1898 ar long ager o Gaerdydd i For y Canoldir a’r Mor Du, a hynny er mwyn ei iechyd.
Gareth Richards.
More stories with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment