Stori'r Miloedd o Gathod
By W. R. Evans, Fishguard, Pembrokeshire
This story is only available in Welsh:
Wel, sut mae stori’r cathod yna’n mynd, rŵan?
Wel, chi’n gweld, odd ’na hen foi yn ardal y Preseli ’na, odd ddim yn teimlo’n dda iawn o gwbwl ryw fore, ac yn achwyn bo fe ddim wedi cysgu drw’r nos. A medde fe wrth ’i gymydog:
‘Chi’n gwbod, John, ’na’r peth ryfedda riôd nithwr. Chysges i ddim winc drw’r nos. Naddo, folon marw, ddim winc.’
‘Pam, beth odd yn bod, achan? Beth o’n bod?’
‘Wel, weda i ’thoch chi: we milodd o rhyw hen gathe’n cadw sŵn tu fas tŷ ni trw’r nos.’
‘O, cerwch! Milodd Bob? Pwy filodd, achan? Sdim milodd o gathe i gal ffor hyn!’
‘Wi’n gweu(d) ’thoch chi, credwch chi fi neu beido, wi’n gweu(d) ’thoch chi, we cannodd o nhw ’na ’n cadw sŵn ’na.’
‘Cerwch oddma! Pwy gannodd? Dewch, nawr, dewch!’
‘Ie, credwch chi neu bido, wi’n gweu(d) ’thoch chi, eitha gwir i chi, odd ugeine o nhw ’na byti’r lle. A on nhw’n cadw sŵn trw’r nos.’
‘Na, wi’m yn credu bo ugeine ’na hefyd’, medde llall.
‘O reit, o reit. Os na gredwch chi, mae eitha gwir i chi. Eitha gwir. ’Na’r peth rhyfedda riôd. Wi’n gweu(d) ’thoch chi we disenni ’na trw’r nos.’
‘A dwi’m yn credu ’ny.’
‘Wel diawl’, medde, ‘[odd] rhyw gath ’na heb yn cath ni, ta beth!’
Tâp: AWC 2589. Recordiwyd: 5.xi.1969, gan Robin Gwyndaf.
Storïwr: W R Evans (1910-1991), sir Benfro. Ganed yng Nglyn Saith Maen, Mynachlog-ddu, sir Benfro. Bu’n athro ysgol, yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg Y Barri, ac yn Drefnydd Iaith ac yn Arolygwr Ysgolion yn sir Benfro. Bu am flynyddoedd yn arweinydd parti o gantorion, ‘Bois y Frenni’, a oedd yn arbenigo mewn adloniant ysgafn a pherfformio mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddodd gyfrolau o farddoniaeth, ac yr oedd yn adnabyddus am ei ddawn ddigrif ar lafar ac mewn print. Am hanes ei fywyd, gw. ei hunangofiant Fi yw Hwn (Gomer, 1980).
Clywodd W R Evans y stori hon ar yr aelwyd pan oedd yn blentyn am ryw gymeriad o ardal Mynachlog-ddu. Nid oedd yn cofio enw’r cymeriad. Pan adroddai’r stori, yr oedd yn dynwared i raddau y sawl a oedd wedi ei hadrodd wrtho yn y lle cyntaf, ond hefyd yn ‘dychmygu dipyn bach shwd bydde’r cymeriad ’ma ’n gweud hi ’i hunan’.
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment