Dylanwad y Môr ar Frechdan Driog!
By John o John, Porthmadog
This story is only available in Welsh:
Ond sylwch chi, dylanwad y môr, dylanwad y môr yn dŵad i mewn i'r ysgol. Oddan ni'n gwbod be odd latitude a longitude a'r equator a felly ymhell cyn gwbod faint o'r gloch ar cloc. Odd dylanwad y môr yn drwm iawn ar y gwersi. Duw, odd dylanwad y môr ar dun triog! Fedra i feddwl am un hen wraig, byddwn i'n neud negeseua iddi hi, Catrin Puw. A sylwch chi rŵan, dylanwad y môr ar dun triog on i'n ddeud, 'te. Pan fyddwn i'n gneud negas iddi mi gawn fechdan driog, bechdan rownd y dorth, triog wedi'i blastro arni, a llun llong odd y plastar triog yma, llun llong. Ac am un negas i Catrin Puw un mast odd ar y llong; dwy negas, dau fast; tair negas, tri mast. Ac am fwy na hynny o negeseua mi gawn i full rig ship, ac erbyn byddwn i wedi sincio honno, fydda nghlustia i'n driog o glust i glust. Yr hen dlawd annwl. Ia.
Tâp: AWC 3554. Recordiwyd: 27.vii.1972, gan Robin Gwyndaf.
Siaradwr: John O John, Porthmadog. Ganed: 19.v.1900, 48 Heol yr Wyddfa, Porthmadog. Wedi byw ym Mhorthmadog ar hyd ei oes ac eithrio tair blynedd y bu yn y De.
Gwaith: amryw swyddi, ond yn Swyddfa'r Dreth Incwm, 1947-60.
Awdur nifer o lyfrau atgofion a rhai dramâu. Bu'n cynhyrchu dramâu ac yr oedd yn adnabyddus fel darlithydd poblogaidd.
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment