ELIDIRFAB, John Ellis Jones, 1840-1911.
Description
History and selection of writings of John Ellis Jones (Elidirfab) author of the popular song "Y Bwthyn ar y Bryn." and many other songs.
[Text provided in Welsh]
Ganwyd ef yn y Parc, Dinorwig, yn y flwyddyn 1840, a bu farw yn Tan y Bryn, Nant Peris, yn y flwyddyn 1911, a chladdwyd ef ym Mynwent Eglwys St, Peris. Prentiswyd ef yn gerfiwr llechfeini , neu 'stonecutter,' fel y dywedir, a bu with y chwarel yn gorchwyl hwnnw yn y Steam Mills, Chwarel Dinorwig.Wedi hynny dyrchafwyd ef yn swyddog yn y chwarel, ac wedi hynny, am y rhan olaf o'i oes bu yn bwyswr yn y chwarel. Yn y flwyddyn 1870 cyhoeddodd lyfr bychan o'i ganeuon, yn dwyn y teitl 'Elidir,' gan ei gyflwyno i'w annwyl fam, o'r hon yr oedd yn dra hoff. Bardd ieuanc ac anaeddfed ydoedd y pryd hwnnw, ebai ef ei hun yn rhagymadrodd y llyfr; rhyw deirblwydd oed y galwai ei hun. Cywirodd lawer o'r caneuon hynny pan ddaeth yn feistr ar y gelfyddyd o farddoni, a gwaneth lawer o englynion a chaneuon tlws a barddonol. Yr oedd ganddo lawysgrif dlos. Yr oedd yn pwyso yn y bonc agosaf i'r lle yr oeddwn inna'n gweithio, a byddem yn anfon ambell gan, neu englyn, i'n gilydd yn y chwarel; cedwais rai o'i waith wedi ei sgrifennu gyda pensel ganddo. Heblaw y gan boblogaidd a nodwyd uchod, gwnaeth ddwy neu dair eraill a fu'n boblogaidd hefyd, megis 'Cusan cwsg oedd cusan mam,' etc. etc. Yr oedd yn gyfaill i Glan Padarn, a'r ddau o'r un ardal. Dywedodd ei wyr, sef Perisfab, wrthyf y byddai'r awen yn dod heibio Elidirfab weithiau ganol nos, a byddai'n gofalu am bapur a phensal ar y bwrdd with ochr y gwely ar gyfer ymweliadau awenyddol felly, er i hynny weithiau beri i'r hen wraig ei ddwrdio arw. Ysmaliodd Mr. Griffith y shop gyda hi ryw dro, trwy ddweud fod Elidirfab yn farw, ac y cawsai wr arall yn fan. "Wel," meddai hithau, "pe priodwn ugain gwaith mi a gymeraf ofal na phriodaf byth siopwr na bardd." Parodd hyn hwyl garw iddynt. Fel ei gyfaill, Glan Padarn, yn y cywair lleddf y canai Elidirfab fynychaf o lawer; bob amser bron a'i wyneb tua'r bedd cyn diwedd y gan. Yr oedd megis yn byw beunydd yn y sefyllfa ddyfodol, neu ar lan y bedd. PROFIAD Y BARDDDyma ychydig o'r tristwch oedd yn nodweddu'r bardd mewn englyn neu ddau o'i waith: "Hen fyd yw hwn, gwn, o gyni,-a bydHeb ben i'w galedi;yn fuan, fuan, af fiDrwy ei boen a'i drybini." "Caf dawel fedd, annedd isTo parod mynwent Peris." "Daw rhwyg i dy yr awen,-daw ingoedd,Daw anger i'm gorffen;Daw arch a throi'r dywarchen,A gweiddi mawr wrth guddio mhen." Gwnaeth lawer o englynion ar feddau ei gymdogion, ond nid oes yna ofod i'w cynnwys yma, gan ein bod yn dodi yma ddwy o'i ganeuon poblogaidd. Yn Lloegr yr oedd y bardd pan gyfansoddodd "Y Bwythyn ar y Bryn," a gwnaeth Mr. Ellis D Williams, R.A.M., Bangor, gerddoriaeth swynol arni. Deuswllt a gafodd Elidirfab amdani, ac y mae deuddeg argraffiad ohoni wedi dod allan o'r asg, meddir. Wele'r gan:- Dwyn mewn cof o flaen fy llygaidGymru annwyl, fy hen wlad,Gyda'r ardal deg lle'm ganwyd,Dyma'r Llan, a bedd fy nhad;Dyma'r afon wyllt yn murmurAr ei thaith i lawr i'r llyn;Dyma finnau'n crwydro'i glannauTua'r bwthyn ar y bryn. Dyma'r bwthyn gyda'r eiddewYn ymglynnu am ei ddrws;Dyma'r ardd, ar hen gelynnen,Dyma'r blodau, o, mor dlws!Dyma lais fy mam yn galw-"Tyrd i'r ty, fy machgen gwyn!"Dyma finnau eto'n blentyn,Yn y bwythyn ar y bryn. Er i flwyddyn fyned heibio,Minnau o fy nghartref 'mhell,Aelwyd annwyl fy mhlentyndod,Caraf di o hyd yn well;O, fy mam! A gaf ei gweled?O, a gaf-dywedwch hyn-Rafael yn ei llaw a mare,Yn y bwthyn ar y bryn? ELIDIRFAB Erthygl dienw FY ANWYL FAM Hen fwddyn cu fy mebydAm hwn daw adgof prudd;Nes gwneud i ddagrau hiraethFwrlymu dros fy ngrudd;Anghofiais gymwynasau,Anghofiais lawer cam,Ond nid yr oriau dreuliaisWrth lin fy anwyl fam-Fy anwyl fam!Fy anwyl fam!Rhyw nefoedd fach dreuliaisWrth lin fy anwyl fam. Hi ddysgodd lawer adnod,Ac emyn per i mi!Ac O! mor athrist traethai,Am angau Calfari;Fy mhader hwyr a boreu,A’m gliniau yn blygedig,Wrth lin fy anwyl fam-Fy anwyl fam!Fy anwyl fam!Hen orsedd gysygredigOedd glin fy anwyl fam. Yn seini fy mhlentyndod-Peryglon henach oed-Ar oriwaered pechod,Pan braidd y lithrai ‘nhroed,A phan yn mraich hudoliaeth,O lwybrau’r Ior ro’wn gam,Mewn gweddi nerthol droswyfPenliniai f’anwyl fam-O! f’anwyl fam!O! f’anwyl fam!Dych’mygaf glywed etoWeddiau f’anwyl fam. Ti henaint bydd yn dirionWrth hon-na lwyda’i gwedd,Ond digarega’i llwybrauI oror ddu y bed;Pan hwnt i dragwyddoldeb,Y rhydd fy enaid lam,O! boed i ‘mhen ogwyddoAr lin fy anwyl fam-Fy anwyl fam!Fy anwyl fam!Yn angeu fy ngobenyddFo glin fy anwyl fam.
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment