Dewi Emrys
Description
T. Glynne Davies (1926-88). Bardd a nofelydd. Fe'i ganed yn Llanrwst, Dinb., a chafodd ei addysg yn yr ysgol ramadeg yno; gweithiodd wedyn mewn labordy. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gweithio mewn pwll glo yn Oakdale, Myn. Yn 1949, wedi gwasanaethu yn y fyddin ac mewn ffatri, trodd at waith newyddiadurol, gan weithio fel gohebydd i'r Cambrian News, Y Cymro a'r South Wales Evening Post. Ymunodd 'r BBC yn 1957 fel gohebydd newyddion a daeth yn gynhyrchydd rhaglenni radio, gan ddatblygu yn ddarlledwr dawnus, gyda'i ffraethineb parod a'i ddull anffurfiol. Cyflawnodd ei addewid fel bardd pan enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1951 gyda'r bryddest 'Adfeilion' a dderbyniodd gryn glod. Rhyw hiraeth brathog yw prif nodwedd ei ddau gasgliad o gerddi, Llwybrau Pridd (1961) a Hedydd yn yr Haul (1969). Ei waith mwyaf uchelgeisiol yw ei nofel Marged (1974); hon yw un o'r nofelau mwyaf sylweddol a gyhoeddwyd yng Nghymru er 1950 ac ynddi dilyna hanes teulu o Lanrwst dros gyfnod o ganrif. Cyhoeddodd hefyd gyfrol o storau byrion, Cn Serch (1954), a nofel arall, Haf Creulon (1960). Ceir ysgrif hunangofiannol gan T. Glynne Davies yn y gyfrol Artist in Wales (gol. Meic Stephens, 1977); gweler hefyd y cyfweliad a roddodd i'r cylchgrawn Mabon (gol. Gwyn Thomas, 1972), y monograff gan Philip Wyn Jones yn Dyrnaid o Awduron Cyfoes (gol. D. Ben Rees, 1975), yr erthygl gan John Rowlands ar Marged yn Ysgrifau Beirniadol XI (gol. J. E. Caerwyn Williams, 1979) a'r nodyn gan yr un awdur yn Profiles (1980). Gweler hefyd yr erthygl gan Bethan Mair Hughes yn Taliesin (cyf. LXXII, 1900-91). Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
More items with these tags
Contact Us
To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.
You must be logged in to leave a comment