Skip to main content

Brechdan Dri- Iaith a geirfa gysylltiedig â'r chwarel, ei ystyr a'i darddiad.

Description

SGWRS BRECHDAN DRI

Ymadrodd arall a glywir yn fynych iawn heddiw i ddisgrifio dynion meddal, diasgwrn cefn, yw cerrig rhywiog. O’r chwarel, bid siwr y daeth hwnnw, ond nid trwy’r chwarelwyr ond trwy’r llenor a’r storiwr J.O.Williams. Cydiodd yr idiom yn nychymyg yr ardal, a daeth yn ymadrodd byw ei thafod.

“Sut bregethwr oedd gynnoch chi acw y Sul?” Synnwn i ddim na ofynnwyd y cwestiwn yma heddiw yn y pentref, ac mae’r ateb oedd- “Roedd o reit dda yn y bora, ond wir neithiwr roedd o fel brechdan dri”. Brechdan bedwar a ddywedai ein teidiau. Dyna ymadrodd a ddaeth i eirfa’r trigolion o’r cyfnod hwnnw pan weithid yn y chwarel yn ystod misoedd yr Haf o chwech yn y bore hyd chwech yr hwyr. Yn amlach na pheidio, torrid bwyd y chwarelwr, neu ei geiliog fel y dywediad, y noson cynt. Wel, sut frechdan ydych chi’n feddwl oedd honno a fwyteid yn hwyr b'nwan drannoeth?

Os clywch rhywun yn dweud fod y sgwrs hon fel brechdan dri- fe ddylech wybod ymlaen llaw beth a olyga hynny- sgwrs sych drybeilig.

North Wales Weekly News

Iau Mawrth 13 1986

Owner:
LleCHI LleNI
Creator:
13/03/1986 North Wales Weekly News
License information:
13/03/1986 North Wales Weekly News
Copyright Details:
LleCHI LleNI 2024
Item uploaded:
5/12/2024
Date originally created:
10/12/2024
Views:
192
Favourites:
0

Contact Us

To request take down or report racist, offensive or otherwise harmful content.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment